Cyngor Llyfrau Cymru
Y Gair A'r Ysbryd - Ysgrifau ar Biwritaniaeth a Methodistiaeth — Ysgrifau ar Biwritaniaeth a Methodistiaeth
Y Gair A'r Ysbryd - Ysgrifau ar Biwritaniaeth a Methodistiaeth — Ysgrifau ar Biwritaniaeth a Methodistiaeth
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Casgliad o erthyglau pwysicaf yr Athro Gruffydd ar y cyfnod rhwng tua 1640 ac 1900 yw'r gyfrol bresennol. Ynddi cawn drafodaethau golau ar rai o awduron mwyaf arwyddocaol y Gymraeg. Fel Y Ffordd Gadarn o'i blaen, mae'r gyfrol hon yn gyfuniad nodedig o ysgolheictod disglair, dawn dweud ac argyhoeddiad Cristnogol dwfn.
Disgrifiad Saesneg / English Description
A collection of the most important articles written by Professor Gruffydd on the period 1640 to 1900. It comprises enlightened discussions on some of the most significant Welsh authors of the period. This volume, similar to his previous publication Y Ffordd Gadarn is a sparkling combination of brilliant scholarship, storytelling and deep Christian conviction.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781850492672
- Gwales Code
- gwales.com.9781850492672
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Y Gair A'r Ysbryd - Ysgrifau ar Biwritaniaeth a Methodistiaeth — Ysgrifau ar Biwritaniaeth a Methodistiaeth
- Sub Title
- Ysgrifau ar Biwritaniaeth a Methodistiaeth
- Awdur / Author
- Gruffydd, R. Geraint
- Current Price ex VAT
- £14.99
- Current Price inc VAT
- £14.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2019-05-02
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gwasg Bryntirion Press
- Editor
- James, E. Wyn
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 320 pages
- Size
- 130 × 210 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Crefydd, Hanes Crefydd (yn Gymraeg) | EN: Religion, History of Religion (in Welsh)
Cynnwys / Table of Contents
Rhagymadrodd (E. Wyn James) R. Geraint Gruffydd: Teyrnged (E. Wyn James) William Wroth a Chychwyniadau Anghydffurfiaeth yng Nghymru Morgan Llwyd Gwrando ar Charles Edwards Diwygiad 1762 a William Williams o Bantycelyn Diwygiad Llangeitho a’i Ddylanwad Drws y Society Profiad Pantycelyn Marwnadau William Williams, Pantycelyn John Thomas, Tre-main: Pererin Methodistaidd Cefndir Meddyliol a Diwinyddol Cyfnod Ann Griffiths Ann Griffiths: Llenor Diwygiad 1859 yng Nghymru Daniel Owen a Phregethu Epilog: Cenadwri Diwygiad 1904–05 Llyfryddiaeth yr Athro R. Geraint Gruffydd, 1996–2015 (Huw Walters) Atodiad: Rhestr o Awduron y Golofn Farddol ‘Twf Tafod’ (Huw Walters)
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Yn 2008 cyhoeddwyd Y Ffordd Gadarn, casgliad o ysgrifau byrion yr Athro R. Geraint Gruffydd ar lên a chrefydd o’r unfed ganrif ar bymtheg ymlaen. Rhoddwyd croeso brwd i’r llyfr hwnnw. ‘Mae’r gyfrol yn wych o ran cynnwys ac arddull’, meddai un adolygydd, ac ym marn un arall, ‘Fe fydd ei darllen yn cyfoethogi bywyd pawb.’ Casgliad o erthyglau pwysicaf yr Athro Gruffydd ar y cyfnod rhwng tua 1640 ac 1900 yw’r gyfrol bresennol. Ynddi cawn drafodaethau golau ar rai o awduron mwyaf arwyddocaol y Gymraeg, gan gynnwys Morgan Llwyd, Williams Pantycelyn, Ann Griffiths a Daniel Owen. Fel Y Ffordd Gadarn o’i blaen, mae’r gyfrol hon yn gyfuniad nodedig o ysgolheictod disglair, dawn dweud ac argyhoeddiad Cristnogol dwfn. Dyma lyfr dwys a difyr sy’n gyfraniad pwysig i’n dealltwriaeth o hanes, llenyddiaeth a chrefydd Cymru yn y cyfnod modern. Yr oedd R. Geraint Gruffydd (1928–2015) yn un o ffigyrau amlycaf bywyd diwylliannol Cymru yn ail hanner yr ugeinfed ganrif. Bu’n Athro’r Gymraeg yn y Brifysgol yn Aberystwyth, yn Llyfrgellydd Cenedlaethol Cymru ac yn Gyfarwyddwr cyntaf Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Cyflawnodd waith ymchwil o’r radd flaenaf, gan gyhoeddi gweithiau o bwys ar bob cyfnod yn hanes llenyddiaeth Gymraeg. Cyn iddo ymddeol yr oedd E. Wyn James yn Athro yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd.
Share
