Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Y Goeden Nadolig Orau Erioed

Y Goeden Nadolig Orau Erioed

Regular price £6.99 GBP
Regular price Sale price £6.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Cyfrol Nadoligaidd yn cyfri'r addurniadau sy'n cael eu gosod ar y goeden Nadolig orau erioed!

Disgrifiad Saesneg / English Description

A Christmassy title where decorations are counted before placing them on the best Christmas tree ever!

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781845279578
Gwales Code
gwales.com.9781845279578
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Y Goeden Nadolig Orau Erioed
Awdur / Author
Cadwaladr, Rhian
Current Price ex VAT
£6.99
Current Price inc VAT
£6.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2024-11-15
Cyhoeddwr / Publisher
Gwasg Carreg Gwalch
Darlunydd / Illustrator
Tecwyn, Leri
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
32 pages
Size
210 × 260 mm; depth 8 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Plant (Cerddi, Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Stories, Poems) (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Llyfrau i Blant Dan 7 Oed (yn Gymraeg) | EN: Books for Children Under 7 (in Welsh)

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Cwestiwn a ofynnwyd i mi'n aml pan oeddwn i'n brifathro oedd pryd oedd yr amser gorau i gyflwyno llyfr a darllen i blant. Flynyddoedd yn ôl mewn darlith gan Jeff Hynds, ymgynghorydd llythrennedd o Sheffield, dywedodd, ‘Rhowch lyfr i blentyn cyn gynted â phosibl’ – a dyna ateb y cwestiwn. Mae gwerthiant llyfrau Cymraeg ar groesffordd ond diolch i Rhian Cadwaladr, Leri Tecwyn a Gwasg Carreg Gwalch am ysgrifennu a chyhoeddi’r llyfr yma. Mae’n em bach o lyfr i’w roi yn hosan Nadolig y plentyn ieuengaf. Mae’n rhesymol o ran pris, yn lliwgar ac yn llawn posibiliadau i sbarduno’r plentyn i gymryd diddordeb mewn llyfr. Mae cyffyrddiad y llyfr yn hyfryd ( mi rydw i’n bersonol yn hoff iawn o anwesu llyfr). Mae’r clawr yn llyfn ac yn llawn lluniau bach i dynnu sylw unrhyw blentyn ac yn llyfr arbennig i Mam neu Dad gyd-ddarllen gyda’u plenty, gan holi a chwestiynu, a thrwy hyn ennyn diddordeb y plentyn. Mae’r stori yn syml, hyfryd ac amserol. Hanes Non sydd yma yn gofyn i’w thad a fuasai’n cael addurno y goeden Nadolig. Cyflwynir y stori mewn rhifau a lluniau. Mae’r peintiadau yn null unigryw Leri Tecwn yn ddeiniadol. Mae’r rhifau yn rhedeg o un i ddeg. Tudalen i bob rhif ac ar y dudalen gyferbyn ceir llun. Mae pob rhif ar belen Nadolig ac oddi tani dau air yn egluro y llun e.e. rhif un ar belen ac yna’r geiriau ‘angel aur’. Rwy’n hoff iawn o ddefnydd o gyflythrennu wrth egluro’r llun. Mae hyn yn ychwanegu at ddenu diddordeb y plentyn yn y stori. Dyma lyfr sy’n haeddu bod yn hosan Nadolig eich plentyn. Mae’n gam cyntaf i gyflwyno llyfrau a darllen i blant ifanc. Mae cymaint i’w gael o’r llyfr. Llongyfarchiadau i dîm mam a merch, Rhian Cadwaladr a Leri Tecwyn.

View full details