Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Y Llyfrgell – Enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen 2009 — Enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen 2009

Y Llyfrgell – Enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen 2009 — Enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen 2009

Regular price £9.99 GBP
Regular price Sale price £9.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Ar fore oer o Chwefror, yn y flwyddyn 2020, mae Dan, un o borthorion Llyfrgell Genedlaethol Cymru, wrthi'n cyflawni ei drosedd arferol yn erbyn y gyfundrefn. Mae'r nofel hon yn trawsnewid gofod tangnefeddus y Llyfrgell Genedlaethol yn set theatrig llawn posibiliadau. Nofel arobryn Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Meirion a'r Cyffiniau, 2009.

Disgrifiad Saesneg / English Description

Set in the National Library of Wales in 2020, Y Llyfrgell ('The Library') follows a group of characters during the course of a day when two armed, female librarians take the readers hostage in the reading room. This novel was awarded the Daniel Owen Memorial Prize at the 2009 National Eisteddfod.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781847711694
Gwales Code
gwales.com.9781847711694
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Y Llyfrgell – Enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen 2009 — Enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen 2009
Sub Title
Enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen 2009
Awdur / Author
Dafydd, Fflur
Current Price ex VAT
£9.99
Current Price inc VAT
£9.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2023-10-10
Cyhoeddwr / Publisher
Y Lolfa
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
256 pages
Size
130 × 195 mm; depth 18 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Cyfansoddiadau a Thestunau Eisteddfod (yn Gymraeg) | EN: Eisteddfod Compositions and Programmes (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Ffuglen Arobryn (y Fedal etc) (yn Gymraeg) | EN: Prize-winning Fiction (in Welsh)

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Y Llyfrgell Genedlaethol yn Ysbrydoli “Campwaith” Fflur Wedi i Fflur Dafydd gipio Gwobr Goffa Daniel Owen am ei nofel Y Llyfrgell cyfaddefodd Fflur iddi gael ei hysbrydoli i ysgrifennu’r nofel pan oedd yn y Llyfrgell Genedlaethol yn astudio am ei doethuriaeth yn 2004. “Ro'n i'n ffeindio fy hun yn dychmygu pob math o senarios gwahanol y gallai ddigwydd yn y llyfrgell yn lle canolbwyntio ar fy ngwaith. Mae 'na rywbeth gwefreiddiol am fawredd yr adeilad, y carped coch, y pileri gwyn a'r cysyniad am holl gyfrinachau mewn un man." Mae Y Llyfrgell yn nofel gyffrous am ddigwyddiadau rhyfeddol yn y Llyfrgell Genedlaethol yn 2020. Roedd y beirniaid yn unfryd mai Fflur oedd yn haeddu’r wobr, dim ond tair blynedd yn unig wedi iddi gipio’r Fedal Ryddiaith, gan ganmol dyfeisgarwch a chlyfrwch yr awdur. Dywedodd John Rowlands yn ei feirniadaeth, “Mae'n awdur dyfeisgar dros ben, sydd wedi creu sefyllfa bron yn anhygoel, gan ein cyfareddu, ein sobri, ein harswydo, a'n gogleisio ar yn ail… darn o lenyddiaeth sy'n bleser pur.” Ychwanegodd Rhiannon Lloyd, “Nofel glyfar iawn y gellir ei mwynhau ar sawl lefel, ac mae'r stori'n ardderchog.” Coronodd y seremoni wythnos a blwyddyn ryfeddol i Fflur. Ar ddydd Sadwrn cyntaf y Steddfod roedd yn priodi Iwan Evans, ac yn nes ymlaen yn yr wythnos perfformiodd gyda’i band ar nifer o lwyfannau’r Eisteddfod. Yn gynharach eleni fe enillodd wobr Awdur Ifanc Oxfam a Gŵyl y Gelli am ei nofel Saesneg Twenty Thousand Saints ac mae’r gantores-gyfansoddwraig ar fin rhyddhau ei thrydedd albwm.

View full details