Cyngor Llyfrau Cymru
Y Trên Bwled Olaf o Ninefe
Y Trên Bwled Olaf o Ninefe
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Cyfrol o straeon am unigolion sy'n cadw hyd braich oddi wrth eraill; straeon llawn hiwmor tywyll sy'n plethu'n gelfydd i greu cyfanwaith sy'n taro golwg sinigaidd ar gymdeithas yng ngorllewin Cymru.
Disgrifiad Saesneg / English Description
A volume of short stories about individuals who all keep others at arm's length. The stories are full of dark comedy which are skilfully interwoven to create a complete work that throws a cynical look at West Wales society.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781845278991
- Gwales Code
- gwales.com.9781845278991
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Y Trên Bwled Olaf o Ninefe
- Awdur / Author
- Davies, Daniel
- Current Price ex VAT
- £8.50
- Current Price inc VAT
- £8.50
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2023-04-21
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gwasg Carreg Gwalch
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 188 pages
- Size
- 128 × 198 mm; depth 10 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Daw Daniel Davies o Lanarth yn wreiddiol ond mae bellach yn byw ym Mhen-bont Rhydybeddau, ger Aberystwyth. Ymysg ei lyfrau mae Allez Les Gallois (2016), Arwyr (2018), Ceiliog Dandi (2020) ac Oes Eos (2021). Enillodd ei gyfrol Tair Rheol Anrhefn Wobr Goffa Daniel Owen yn 2011, a daeth Pelé, Gerson a’r Angel (2001), Gwylliaid Glyndŵr (2007) ac Yr Eumenides (2017) yn agos i'r brig yn yr un gystadleuaeth. Hon yw ei ddeuddegfed gyfrol.
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Roedd Ninefe yn ddinas ysgeler, dwyllodrus, ladronllyd a gafodd ei dinistrio gan Dduw yn ei lyfr enwog, y Beibl. Ond heddiw yn ein Ninefe ni ... Mae gyrrwr tacsi, cyn-weithwraig siop, gweithiwr ffatri gaws, athrawes ysgol gynradd, disgybl ysgol disglair a myfyriwr coleg yn ceisio ymdopi â’r bobl a’r gymdeithas sydd wedi eu siomi a’u brifo. Ond mae’r chwech yn gweld cyfle i ffoi o’u bywydau heriol a rhwystredig a dal ... Y TRÊN BWLED OLAF O NINEFE ‘Cylch o straeon Tarantinoaidd sy’n llawn hiwmor tywyll a dychan bachog.’ – Eurig Salisbury ‘Cymeriadau cofiadwy gan awdur sy’n ddiamheuol ddawnus.’ – Meg Elis Daeth y gyfrol hon yn ail yng nghystadleuaeth y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol 2022.
Share
