Cyngor Llyfrau Cymru
Ymbapuroli
Ymbapuroli
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Cyfrol o ysgrifau cywrain gan un o'r awduron mwyaf cynnil sy'n ysgrifennu yn y Gymraeg heddiw, sy'n cwmpasu pynciau amrywiol megis seineg, cacennau, clirio a Karl Marx, gan ein cludo ar wibdaith o amgylch Cymru a thu hwnt.
Disgrifiad Saesneg / English Description
A volume of articles by one of the most subtle authors writing in the Welsh language today, encompassing such diverse topics as phonetics, cakes, cleaning and Karl Marx, as we are taken on a speedy trip around Wales and beyond. REPRINT FIRST PUBLISHED 2020
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781845277802
- Gwales Code
- gwales.com.9781845277802
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Ymbapuroli
- Awdur / Author
- Price, Angharad
- Current Price ex VAT
- £8.00
- Current Price inc VAT
- £8.00
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2021-01-31
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gwasg Carreg Gwalch
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 174 pages
- Size
- 128 × 198 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Ysgrifau a Sgyrsiau (yn Gymraeg) | EN: Essays and Talks (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Ysgrifau (yn Gymraeg) | EN: Essays (in Welsh)
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Mae Angharad Price yn academydd a nofelydd sy'n byw yng Nghaernarfon gyda'i theulu. Enillodd y Fedal Ryddiaith yn 2002 gyda O! Tyn y Gorchudd . Cyhoeddwyd Trysorau Cudd Caernarfon ganddi hi a Richard Outram yn 2018.
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Rhy hir o lawer y bu’r disgwyl am gyfrol o ysgrifau Cymraeg, o ystyried llinach anrhydeddus y ffurf a’r bri mawr sydd arni o hyd. Fe aeth yr ysgrif yn ffurf ddieithr ac amheus i’r gweisg sefydledig, ond pe baem wedi gorfod aros deng mlynedd arall am gyfrol ohonynt yn ein hiaith, byddai wedi bod yn werth pob eiliad os taw hon oedd y gyfrol a arhosem amdani. Ceir yma amryffurfedd, lluosogrwydd ac amrywiaeth ochr yn ochr ag unfrydedd, unplygrwydd ac ymgolli yn y gwrthrych, y cyflwr, a’r lle unigol. Y tyndra celfydd a gosgeiddig hwn sy’n gwneud diffinio’r gyfrol yn orchwyl seithug. Mae yna ysgrifau am Gymru, am Ewrop – am y byd. Ond nid oes ffiniau rhyngddynt: gwelwn Gymru’n rhan o’r byd mawr, a’r byd oll yng ngwead Cymru hithau. Delwedd addas yn hyn o beth yw honno sy’n agor ac yn cloi’r ysgrif am Jan Morris a’i gwaith (‘Ar Blyg y Map’), sef map o’r byd a roliwyd yn belen flêr. Mae’r ysgrifau’n cynnig cyfanwaith, ond heb golli golwg ar yr hyn a guddiwyd a’r hyn sy’n gwyro rhag ein syniadau cyffredin am gyflawnder a gorffennedd. Mewn ysgrifau fel ‘Bara Berlin yn Sling’ cawn brofiad sy’n pontio gofod ac amser, gan drosgynnu’r ffordd arferol o synio am lefydd fel petaent yn ddiriaethau disymud, terfynol. Mae gan yr awdures amgyffred miniog o fyd sy’n ‘ddim ond plygiadau’, ac yn y plygiadau hynny mae dod o hyd i ganfod am amgyffred amgen. Un nodwedd sy’n haeddu sylw neilltuol yw’r defnydd ar iaith yn y gyfrol hon. Mae Angharad Price wedi hen fagu ieithwedd arbennig sy’n ymhyfrydu mewn geiriau morffolegol-luniaidd – fel y dengys teitl y gyfrol ei hun – ond heb ddieithrio’r darllenydd. Defnyddir iaith at bwrpas, a’i gwthio heb ofni mentro. Mae hi’n siapio iaith yn ôl anghenion ei mynegiant. Mae hynny’n rhyddhad yn y sin lenyddol sydd ohoni, sy’n gallu glynu’r rhy dynn at iaith lafar ei naws (neu syniad rhai pobl ynglŷn â beth yw iaith lafar). Law yn llaw â’r iaith huawdl, ceir hefyd amrywiaeth braf o ran arddull. Bydd y gyfrol hon yn herio’r rhagdybiaethau bod yr ysgrif yn rhyw ymarferiad ymenyddol, neu gyfrwng hel atgofion cysglyd. Darllened y sawl sy’n rhagdybio felly ysgrif olaf y gyfrol hon, ‘Y Lôn Glai’. Dyma ddarn sy’n amlygu rhinweddau ffurf yr ysgrif: mae’n cyniweirio fel ysbryd ar drothwy’r llenyddol a’r ‘ffeithiol’, nes bod yna ddim trothwy o gwbl.
Share
