Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Yn Fyw yn y Cof

Yn Fyw yn y Cof

Regular price £8.99 GBP
Regular price Sale price £8.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Nofel am dair cenhedlaeth o un teulu. Ceir hanes Anti Glad oedd yn ffermio Tyddyn Bach, ei nai Iorwerth a newidiodd gyfeiriad ei fywyd ar ôl marwolaeth ei fodryb, ac am Bethan ei ferch. Stori am gefn gwlad a'r ddinas, am ofal a chariad ac am ddal dig a dial.

Disgrifiad Saesneg / English Description

A novel about three generations of one family. We hear about Anti Glad who used to farm Tyddyn Bach, her nephew Iorwerth who changed direction following the death of his aunt, and Bethan his daughter. A story about rural and city life, about guardianship and love and about harbouring resentment and revenge.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781800991507
Gwales Code
gwales.com.9781800991507
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Yn Fyw yn y Cof
Awdur / Author
Roberts, John
Current Price ex VAT
£8.99
Current Price inc VAT
£8.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2021-12-01
Cyhoeddwr / Publisher
Y Lolfa
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
192 pages
Size
131 × 195 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Ffuglen - Arall (yn Gymraeg) | EN: Genre Fiction-Other (in Welsh)

Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography

Magwyd John Roberts ar fferm Llawr-y-dref ger Llangïan ym Mhen Llŷn. Bu’n weinidog am ddeuddeg mlynedd yn Nyffryn Ceiriog, cyn mynd yn gynhyrchydd rhaglenni crefydd ac yna yn is-olygydd BBC Radio Cymru. Mae’n gyflwynydd y rhaglen Bwrw Golwg BBC Radio Cymru ers deg mlynedd ar hugain. Bellach mae wedi gadael y BBC ac yn gyfarwyddwr cwmni cynhyrchu annibynnol Tonnau Cyf. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Gabriela, gan wasg y Lolfa yn 2013.

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Fe ddeuthum i'n gyfarwydd â’r nofel hon gyntaf ar drothwy’r Nadolig 2019. Digwyddwn fod yn un o feirniaid Gwobr Goffa Daniel Owen ac fe’i hanfonwyd i’r gystadleuaeth honno. Ni ddatgelwyd iddi ddod yn ail teilwng i Hannah-Jane gan Lleucu Roberts nes i hynny gael ei gyhoeddi ar ôl yr Eisteddfod AmGen gynhaliwyd yn 2021. Roedd y ddwy nofel ddaeth i’r brig yn y gystadleuaeth mewn rhai ffyrdd yn debyg iawn i’w gilydd gan eu bod yn trafod hynt a helynt tair cenhedlaeth o’r un teulu ac yn rhoi lle canolog i’r clefyd dementia yn eu storïau. Bu’r awdur yn ddoeth i newid teitl y nofel er pan anfonodd hi i’r gystadleuaeth yn 2019, ac mae’r llun trawiadol gan Valériane Leblond sydd ar y clawr yn gaffaeliad pendant. Fe gawn gan yr awdur ddisgrifiad cynnes o fywyd cefn gwlad, ac mae enwau’r ffermydd – Tyddyn Bach, Glan Ffrwd, a Berllan Bella – heb sôn am drafferthion yr ocsiwn a’r helyntion efo’r Ffyrgi bach, yn creu darlun sydd bron â bod yn un rhamantus. Diddorol hefyd yw strwythur y nofel gyda’r hanes wedi ei rannu i 'Heddiw', 'Ddoe' ac 'Echdoe', a ninnau yn ymweld â’r gwahanol gyfnodau yn eu tro. Fe’n cludir o’r heddiw cythryblus i ddyddiau tywyll yr Ail Ryfel Byd. Mae yma garwriaethau sy’n allweddol i’r stori, a dwy o’r rhai hynny yn rhedeg ochr yn ochr, er bod blynyddoedd mawr rhyngddynt. Perthyn carwriaeth Glad a Gruff i ddyddiau’r Ail Ryfel Byd tra bod carwriaeth Bethan a Gwynfor yn dod â ni yn nes at ein cyfnod ni. Er y pellter amser rhyngddynt maen nhw'n digwydd ar yr un darn o draeth ac mae yna arwyddocâd pwysig i seithugrwydd y ddwy. Y garwriaeth fawr arall yw carwriaeth Bethan (sy’n ferch i Iorwerth, gyda llaw) a Greta, ond mae honno hefyd yn cael ei phrofi i’r eithaf. Ond Iorwerth ei hun yw canolbwynt yr hanes ac mae’r darlun a gawn o’i feddwl yn dirywio yn un dirdynnol. Mae’n llithro fwy fwy i’w blentyndod wrth adrodd ac ailadrodd hwiangerddi a dwyn i gof rai o’r oriau melys a dreuliodd yn blentyn ar aelwyd Anti Glad. Rhaid oedd ei symud o’i gynefin i Gaerdydd fel y gall Bethan a Greta ofalu amdano. Tasg yw hon sy’n gosod cryn straen ar eu perthynas ac yn arwain at fwy o drasiedïau. Ond mwy sinistr, efallai, na’r afiechyd y dioddefa Iorwerth ohono yw’r negeseuon dienw bygythiol a anfonir ato. Maen nhw’n bresenoldeb gwenwynig drwy’r nofel ar ei hyd, er nad yw Iorwerth druan mewn unrhyw sefyllfa i’w hamgyffred. Rhaid aros tan y diwedd eithaf cyn i ni ddarganfod pwy sy’n anfon y negeseuon a deall y rheswm drostynt. Er bod yma ambell fflach o oleuni, nofel dywyll iawn yw hon mewn gwirionedd, ond mae’n ddilyniant mwy na theilwng i Gabriela , nofel gyntaf yr awdur.

View full details