Cyngor Llyfrau Cymru
Yn Llais yr Anifail — Straeon y Creaduriaid yn y chwedlau Celtaidd
Yn Llais yr Anifail — Straeon y Creaduriaid yn y chwedlau Celtaidd
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Straeon yn llais yr adar a'r anifeiliaid yw'r gyfrol hon. Yn y chwedlau Celtaidd, mae anifail neu aderyn yn amlwg iawn. Cawn ryfeddu at y galluoedd neu'r pwerau anarferol sydd gan y creaduriaid, ac at eu dylanwad ar wahanol gymeriadau. O glywed llais yr anifail neu'r aderyn, cawn olwg newydd sbon ar y straeon arbennig hyn.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781845278861
- Gwales Code
- gwales.com.9781845278861
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Yn Llais yr Anifail — Straeon y Creaduriaid yn y chwedlau Celtaidd
- Sub Title
- Straeon y Creaduriaid yn y chwedlau Celtaidd
- Awdur / Author
- Amrywiol
- Current Price ex VAT
- £18.00
- Current Price inc VAT
- £18.00
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2024-10-25
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gwasg Carreg Gwalch
- Darlunydd / Illustrator
- Manon, Elin
- Media Type (EN)
- Hardback
- Media Type (CY)
- Clawr caled
- Pages
- 100 pages
- Size
- 200 × 270 mm; depth 12 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant (Cerddi, Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Stories, Poems) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Chwedlau (yn Gymraeg) | EN: Folk Tales and Fables (in Welsh)
- FSC Status
- FSC certified (mixed sources) — C114687
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Darlunydd o Gymru yw Elin Manon. Mae ei gwaith yn aml yn cael ei ysbrydoli gan fyd natur, ecoleg, straeon gwerin ac anthropoleg. Hi hefyd ddarluniodd y gyfrol Dros y Môr a’r Mynyddoedd, Straeon Merched Dewr y Celtiaid .
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Straeon y creaduriaid mewn deuddeg chwedl Geltaidd sydd yma. Fel mae’r teitl yn ei awgrymu, y creaduriaid eu hunain sydd yn ailadrodd y straeon traddodiadol yn eu geiriau eu hunain. Yn ogystal â’r storïau, cawn wybod am deimladau personol y creaduriaid hefyd, ac fe gaiff y cyfan ei gyfoethogi gan luniau cyfoethog, clasurol eu naws gan Elin Manon, a’r dylunio crefftus gan Olwen Fowler. Mae nodiadau am y chwedlau yng nghefn y llyfr yn ogystal, a theimlaf ei bod yn bwysig edrych ar y rhain cyn mynd ati i ddarllen y chwedlau. Cewch wybod o pa wlad Geltaidd y daw pob chwedl, ynghyd ag enwau’r awduron sydd wedi ysgrifennu’r storïau. Er enghraifft, yn y nodiadau gwelir bod y drudwy yn cael ei ystyried fel aderyn oedd yn ffrind i’r Celtiaid, yn negesydd dwyfol, ac yn ‘symbol o lwc dda a chymorth gan rymoedd cosmig’. Yn y stori ei hun (gan Angharad Tomos) hawdd yw derbyn, felly, fod y ddrudwy yn dod yn ffrind i Branwen yn Iwerddon, gan ddod yn negesydd sy’n cario nodyn at ei brawd Bendigeidfran yn Nghymru, yn gofyn am ei gymorth i’w hachub. Cymeriad pluog, diddorol arall yw’r frân goesgoch, a chwedl o Gernyw a geir y tro hwn gan Sioned Erin Hughes. Cefais syrpreis o’r mwyaf wrth ddarllen hon, a dysgu ffaith na wyddwn o’r blaen am yr aderyn prydferth yma. Gan fy mod wedi gwylio’r aderyn hwn droeon ar Ynys Enlli a gwrando ar ei gri hynaws, rwy’n edrych ymlaen at ei weld a’i glywed yno’r tro nesaf, a hynny â golwg newydd wedi i mi ddarllen y stori. Teg yw dweud mai’r creadur yma yw fy ffefryn yn y casgliad yma. Rwy’n hoff o’r geiriau yma o enau’r frân goesgoch, “y gwaed sy’n staenio fy mhig crwm a’m coesau main yn goch”, sydd yn ddisgrifiad da ac ynddo dinc o dristwch. Efallai fod trip i Gernyw yn cael ei ychwanegu at fy rhestr ‘i’w gwneud’ hefyd! Buaswn wrth fy modd yn gweld y frân groesgoch yn hedfan uwch fy mhen, yn gwarchod ei phobl. Mae Elin Manon yn ddarlunydd o Gymru sydd yn byw yng Nghernyw. Yn amlwg caiff ei hysbrydoli gan fyd natur a straeon gwerin, ac mae hi’n llwyddo i ddyfnhau ein hymwybyddiaeth o’n hamgylchedd a’n hanes fel drwy ei lluniau. Rwyn hoffi sut mae’r print wedi ei osod o fewn y lluniau, gan roi yr un faint o sylw i’r gwaith celf â’r sgwennu hudolus. Mae’r gwaith celf yn dweud y stori yn ogystal â’r geiriau. Rwyf wrth fy modd gyda steil arbennig Elin. Mae naws ysgafn ac ymlaciol i’w lluniau, gyda defnydd o olau hyfryd ynddynt. Llun sy’n sefyll allan i mi yn y llyfr hwn yw’r darnau o aur yn y tir yn stori ‘Lwc Mul a Choblyn o Dymer’. Mae’r sêr, y lleuad a’r aur yn y tywyllwch yn rhoi teimlad hudolus a chyfoethog i’r cyfanwaith. Mae ei chariad tuag at yr amgylchedd a byd natur yn amlwg yn ei lluniau, a’r cyfan wedi’i osod yn y gorffennol pell mewn byd heb ddylanwad yr oes fodern – rhywbeth y bydda i’n ceisio ei gyfleu yn fy mhaentiadau innau hefyd. A bod yn onest, teimlaf weithiau fod llyfr o chwedlau yn gallu bod yn drwm a’r iaith yn hen ffasiwn. Ond mae Yn Llais Yr Anifail yn trin hen chwedlau gyda ffresni a thipyn o hiwmor. Cefais lawer o fwynhad yn darllen y straeon, gan ehangu fy ngwybodaeth am y chwedlau Celtaidd sy’n rhan bwysig o hanes pob un ohonom. Petawn yn gorfod dyfarnu sawl seren o 5 i’w roi i’r llyfr, buasai 5 yn eithaf agos i’w le. Ewch ati i ddarllen y llyfr yma – fel unigolyn neu mewn grŵp, neu efallai cewch wrando ar rywun arall yn darllen y storïau gwerthfawr yma i chi. Cewch ddarllen un chwedl ar y tro os mynnwch, neu efallai na fyddwch yn gallu rhoi y llyfr heibio ar ôl dechrau darllen – mwynhewch!
Share
