Cyngor Llyfrau Cymru
Yr Hudlath a'r Haearn
Yr Hudlath a'r Haearn
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Stori am ddewin ifanc o fachgen a merch ifanc sy'n rhyfelwraig, ill dau wedi eu dysgu o'r crud i gasáu ei gilydd, a'r hyn sy'n digwydd pan ddaw bydoedd y ddau wyneb yn wyneb. Cyfrol berffaith ar gyfer bechgyn a merched sy'n caru anturiaethau ffantasi ... Unwaith roedd y byd yn drigfan i hud a lledrith mewn coedwigoedd tywyll. Hyd nes i'r Rhyfelwyr gyrraedd...
Disgrifiad Saesneg / English Description
This is the story of a young boy Wizard and a young girl Warrior who have been taught since birth to hate each other like poison; and the thrilling tale of what happens when their two worlds collide. Perfect for boys and girls who love fantasy adventure... Once there was Magic, and the Magic lived in the dark forests. Until the Warriors came...
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781849670777
- Gwales Code
- gwales.com.9781849670777
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Yr Hudlath a'r Haearn
- Awdur / Author
- Cowell, Cressida
- Current Price ex VAT
- £6.99
- Current Price inc VAT
- £6.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2019-03-14
- Cyhoeddwr / Publisher
- Rily
- Translator
- Jones, Ifan Morgan
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 400 pages
- Size
- 129 × 198 mm; depth 4 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Storïau i Blant 9-11 Oed (yn Gymraeg) | EN: Stories for Children Aged 9-11 (in Welsh)
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Fel mae teitl y nofel hon yn ei awgrymu, mae hud yn thema gref yn y gyfrol wych hon. Ar y cyfan, ni chaiff y thema hud a lledrith lawer o sylw mewn llyfrau Cymraeg, ond mae’r nofel hon yn llenwi rhywfaint ar y bwlch hwnnw trwy gynnig y cyfle i ddarllenwyr ymgolli’n llwyr mewn byd ffantasi llawn hud a dirgelwch. Mae’r stori yn canolbwyntio ar antur un diwrnod i ddau gymeriad sy’n ffinio ar daro’r glasoed. Yn gyntaf, cyflwynir Llŷr i ni, dewin yn ei arddegau sy’n ysu am antur a chyffro yn ei fywyd. Yn ail, cyflwynir Dôn, sef merch ddeuddeg oed sy’n byw mewn byd hollol wahanol i Llŷr, er eu bod yn byw dafliad carreg o’i gilydd. Mae’r ddau yn perthyn i ddau lwyth gwahanol iawn o bobl – mae Llŷr yn un o’r Dewiniaid â’u byd o swyn, a Dôn yn un o’r Rhyfelwyr sy’n ymwrthod yn llwyr â hud. Yn fuan yn y stori, daw’r ddau i gyswllt am y tro cyntaf erioed, a chaiff y darllenydd ymuno ar antur sy’n arwain trwy ddau fyd ffantasïol cyffrous. Wrth i’r antur fynd rhagddi, cyflwynir cymeriadau o bob lliw a llun – cigfran ddoeth o’r enw Crawchog; cawr enfawr o’r enw Dolur; tylwyth twp gydag enwau fel Pry-pi a Cachgibwgan; cath eira i’w marchogaeth; bleiddiaid; arth; ysbrydion; gwrach sydd â hud drwg; ac anifail anwes sy’n llwy hudol! Oes – mae creadigrwydd a dychymyg hynod tu cefn i’r cymeriadau amrywiol hyn! Rhaid canmol creadigrwydd yr awdur wrth enwi’r holl gymeriadau difyr hefyd; mae yma ddefnydd o eirfa ddiddorol a lliwgar drwyddi draw, gan fentro’n bell o’r Saesneg gwreiddiol a rhoi blas trwyadl Gymreig ar y cyfan. Fel y gellid dychmygu o ddarllen rhai o’r enwau doniol, mae tipyn o hiwmor i’w gael rhwng cloriau’r gyfrol hefyd, wrth i ambell gymeriad wneud penderfyniadau twp neu ddweud pethau dros ben llestri – mae’n amhosib peidio chwerthin yn uchel ar adegau! Elfen arall sy’n gwneud y nofel yn bleser i’w darllen yw’r defnydd o luniau, sgetsys, a mapiau. Does dim llawer iawn o dudalennau dwbl sydd ddim yn cynnwys yr elfen ddiddorol hon – mae’n ychwanegu ychydig o hwyl i’r darllen, ac yn sicrhau nad yw’r nofel yn teimlo’n faich i’w darllen, er mor drwchus yw’r gyfrol, sy’n allweddol bwysig o gofio mai apelio at ddarllenwyr iau yw’r nod. Mae hefyd yn ychwanegu at gynnwys y stori, gan gynnig lluniau o’r creaduriaid hynod er mwyn cynorthwyo’r dychymyg, ac esboniadau pellach ar faterion megis swynau hudol. Dyma’r gyntaf yng nghyfres Yr Hudlath a’r Haearn; os ydych chi’n mentro i fyd y nofel hon, byddwch yn sicr yn awchu i bori drwy’r gyfres gyfan.
Share
