Cyngor Llyfrau Cymru
Ysbrydion
Ysbrydion
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Profiadau diweddar y seicig Elwyn Edwards sydd â'r gallu i gysyllt u ag eneidiau ysbrydol.
Disgrifiad Saesneg / English Description
The recent experiences of the psychic Elwyn Edwards who has the gi ft of connecting with spiritual souls.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781911584520
- Gwales Code
- gwales.com.9781911584520
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Ysbrydion
- Awdur / Author
- Edwards, Elwyn
- Current Price ex VAT
- £8.95
- Current Price inc VAT
- £8.95
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2021-10-22
- Cyhoeddwr / Publisher
- Cyhoeddiadau Barddas
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 152 pages
- Size
- 138 × 210 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Straeon Gwir (yn Gymraeg) | EN: True Stories (in Welsh)
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Mae Elwyn Edwards yn byw yn y Bala a hon yw ei ail gyfrol o ysgrifau sy'n adrodd ei hanes yn cysylltu gyda'r meirw.
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Hyd yn gymharol ddiweddar, amheuwr oeddwn i parthed bodolaeth ysbrydion. Teimlwn fel y teimlai T. H. Parry-Williams am fodolaeth Tylwyth Teg. Medrwn haeru’n hyderus, ‘Dw i ddim yn credu mewn ysbrydion’. Yna, a minnau ar wyliau ar un o ynysoedd bach Gwlad Groeg digwyddodd rhywbeth anesboniadwy. A bellach gallaf ychwanegu, ‘Ond maen nhw’n bod’. Yn wahanol i Elwyn Edwards dydw i ddim yn ysbrydegydd nac yn gyfryngwr. Yn y gyfrol hynod o afaelgar hon cawn wybod am rai o’i niferus brofiadau ysbrydol. I’r rhelyw ohonom ni fyddai’r profiadau hyn yn gwneud unrhyw synnwy, ond o ddarllen tystiolaethau Elwyn mae gofyn i hyd yn oed y sinic mwyaf yn ein plith ailfeddwl. Gallaf, er enghraifft, dderbyn yn ddigwestiwn fod gennym ni, pan yn fabanod, alluoedd sy’n araf bylu wrth i ni heneiddio. Ac un o’r greddfau naturiol hynny, medd Elwyn, yw’r arferiad sydd gan blentyn bach o greu ffrindiau sy’n anweledig i bawb ond i’r plentyn ei hun. Ond o heneiddio, prin yw’r rheiny sy’n parhau i fod yn berchen ar y gynneddf hon, meddai. Mae’r gyfrol yn gyforiog o hanesion am ei wahanol brofiadau yn y byd ysbrydol, nifer ohonynt yng nghwmni eneidiau hoff cytûn. I mi, y mwyaf diddorol yw’r ysbrydion hynny y medrir rhoi iddynt enwau. Ac un profiad o’r fath sy’n sefyll allan yw cysylltiad Elwyn â Jane Williams. Hi sy’n ganolog i’r hen gân enwog honno, ‘Yr Eneth Gadd ei Gwrthod’. Ychwanegwch yr emynyddes Ann Griffiths a’r Cyrnol John Jones, Maesygarnedd, a ddienyddiwyd yn 1660. Caiff lleoliadau arbennig sylw hefyd, o swyddfeydd Cyngor Gwynedd yng Nghaernarfon i lannau Llyn Celyn. Ychwanegwch brofiadau’n ymwneud â rhagfynegi a dyna i chi destament o achosion a allai fod yn destun cyfres deledu gyfareddol. Mae’r ysbrydion a’r achosion sydd ynghlwm wrthynt yn rhychwantu’r canrifoedd. Cawn yr awdur yn ymweld â lleoliad Siambr Hywel Dda o’r 9fed ganrif ac yn dod wyneb yn wyneb ag ysbryd merch ifanc oedd yn wynebu’r crocbren. Yna, yn ein cyfnod ni cawn ddigwyddiad rhyfedd a brofodd Elwyn a’i briod wrth wylio telediad seremoni’r Coroni ym Mhrifwyl Caerdydd yn 2018. Un rheswm diddorol a gynigir gan Elwyn dros ymddangosiad ysbryd yw awydd yr ymwelydd i’n hysbysu ei fod yno, a’i fod am ddweud pam. Rhyw brociad o’r byd ysbrydol gan enaid aflonydd. A dyma gofio dywediad gan gymeriad yn The Satanic Verses slawer dydd: ‘Now I know what a ghost is. Unfinished business, that’s what.’ Ydw, o Syr Tomos i Salman Rushdie, rwy’ mewn cwmni da.
Share
