Cyngor Llyfrau Cymru
Ysgrifau Beirniadol XXXIII
Ysgrifau Beirniadol XXXIII
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Casgliad difyr o ysgrifau beirniadol newydd yn trafod amrywiaeth o destunau ac awduron Cymraeg gan T. Robin Chapman, Philip R. Davies, Edith Gruber, Bobi Jones, Llŷr Gwyn Lewis, Bleddyn Owen Huws a Mair Rees, ynghyd â chyfweliad gyda Sioned Puw Rowlands, Cyfarwyddwr Cyfnewidfa Llên Cymru.
Disgrifiad Saesneg / English Description
An entertaining collection of new critical essays discussing a variety of Welsh texts and authors by T. Robin Chapman, Philip R. Davies, Edith Gruber, Bobi Jones, Llŷr Gwyn Lewis, Bleddyn Owen Huws and Mair Rees, including an interview with Sioned Puw Rowlands, Director of Wales Literature Exchange.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781904554226
- Gwales Code
- gwales.com.9781904554226
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Ysgrifau Beirniadol XXXIII
- Awdur / Author
- Gee, Gwasg
- Current Price ex VAT
- £9.95
- Current Price inc VAT
- £9.95
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2015-04-02
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gwasg Gee
- Editor
- Hallam, Tudur; Price, Angharad
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 176 pages
- Size
- 215 × 140 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Astudiaethau a Thestunau Llenyddol (yn Gymraeg) | EN: Literary Studies and Texts (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Astudiaethau Llenyddol (yn Gymraeg) | EN: Literary Studies (in Welsh)
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Dechreuwyd cyhoeddi’r gyfres hon union hanner can mlynedd i eleni, yn Rhagfyr 1965, a dyma ni, erbyn hyn, yn croesawu cyfrol 33, a hynny mewn diwyg newydd, sydd, yn ôl y rhagymadrodd, ‘yn adlewyrchiad o fywiogrwydd y cynnwys, yn arwydd o fywyd deallusol yr ysgrifau sy’n bodoli dan faner y gyfres hon’. Ar yr un gwynt, mae’r golygyddion yn crybwyll e-gyhoeddi ac yn darogan y gallai hynny fod y cam posibl nesaf i’r gyfres yn y dyfodol agos. Mae sôn am e-bosibiliadau yn mynd â ni’n syth at ‘Hedfan Gwefan Ofnus’, cyfraniad Bobi Jones, ysgolhaig a bardd cynhyrchiol sydd, er ei fod ar ganol ei wythdegau, wedi coleddu’r e-fyd yn frwdfrydig trwy sefydlu ei wefan bersonol: www.robertjones−bobijones.net Yn dilyn cyhoeddi ei ‘lyfr papur’ diwethaf yn 2009, trodd yr awdur at y we gan e-gyhoeddi nifer o lyfrau ar y tro rhwng 2011 a’r presennol, yn nofel, barddoniaeth, beirniadaeth lenyddol a dogfen bolisi. Teimlai ‘y byddai cyhoeddi’r rhain oll ar y we yn llai trafferthus ac yn llai ymarhous nag ymlusgo drwy gyfundrefn gymhlethog, ohirgar, fonopolïaidd cyhoeddi yng Nghymru’! Pwnc Bleddyn Owen Huws mewn trafodaeth ar gywydd o waith Guto’r Glyn i Hywel ab Ieuan o Foeliwrch, Llansilin, a oedd wedi brifo’i ben-glin, yw effeithiolrwydd y cywydd iacháu. Â ymlaen i drafod y weithred o iacháu fel perfformiad, lle mae’r claf a’r sawl sy’n iacháu yn gymeriadau ‘megis mewn drama’. Mae angen ffydd yng ngrym goruwchnaturiol geiriau a’u gallu i effeithio ar glefydau a doluriau y ddynoliaeth. Wrth drafod hyn, trafodir enghreifftiau rhyngwladol o arferion a defodau tebyg. Ymhlith y cyfraniadau eraill, ceir erthyglau gan Llŷr Gwyn Lewis ar gyfieithiadau gan T. Gwynn Jones a Tadhg Ó Donnchadha o farddoniaeth Gymraeg a Gwyddeleg; Philip R. Davies ar Emrys ap Iwan ac Imperialaeth Brydeinig, 1879–85; Mair Rees yn trafod ‘Hon’, cerdd enwog T. H. Parry-Williams o safbwynt y ferch, ‘Y Famwlad neu’r Fenyw?’; Edith Gruber yn nodi cyfraniad Albert Schulz i’r gwaith o gyflwyno’r ‘Mabinogion’ i gynulleidfa Almaenig; a T. Robin Chapman yn ymweld â rhyddiaith ‘hwyr y dydd’ Islwyn Ffowc Elis a Kate Roberts. Yn ogystal â’r erthyglau a nodwyd uchod, ceir cyfweliad diddorol rhwng golygyddion y gyfrol a Sioned Puw Rowlands, Cyfarwyddwr Cyfnewidfa Lên Cymru, lle olrheinir pwrpas a gwaith y ganolfan a ddatblygodd o Sefydliad Mercator yn Aberystwyth, trwy ddylanwad Ned Thomas. Dyna hyd a lled y gyfrol ddiweddaraf yn gryno felly, a mawr hyderwn y gwelwn ni eto fwy o gyfrolau papur deniadol fel hon, cyn i’r gyfres ddiflannu i e-fyd rhithwir y we fyd-eang.
Share
